Green circular gradient

Ynys ynni: safle unigryw Ynys Môn

Mae Ynys Môn mewn sefyllfa unigryw ar gyfer harneisio ynni adnewyddadwy o ffynonellau’r haul, y gwynt, a’r llanw. Mae’r fantais strategol hon yn cynnig nifer o fanteision i’r ynys a’i thrigolion. Dewch i wybod beth sy’n digwydd isod:

Mantais Ynys Môn

Mae mantais ddaearyddol Ynys Môn yn dod â budd i’r gymuned, yr economi a’r amgylchedd yn lleol. Mae hefyd yn gosod cynsail i ranbarthau eraill ar gyfer ymchwilio a defnyddio eu hadnoddau naturiol ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy.

Dychmygwch... Mae Ynys Môn yn fwy nag ynys erbyn hyn

Mae’n goleuo’r ffordd ymlaen ar gyfer ynni adnewyddadwy, mae’n ganolfan dechnolegol, mae’n bwerdy economaidd. Rydym yn arwain y ffordd yn y chwyldro gwyrdd, gan fod yn driw i’n henw – Môn Mam Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif.

Dyfodol gydag ynni cynaliadwy, Ynys Môn 2050

Gwibiwch ymlaen i 2050. Mae Ynys Môn wedi llwyddo i newid o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Mae’r aer yn lanach, ac rydym wedi cymryd camau i wyrdroi’r newid yn yr hinsawdd ac adfer ein hecosystemau.

Mae ein hynys yn fwrlwm o weithgaredd – gweithfeydd cynhyrchu gwyrdd yn creu tyrbinau gwynt a phaneli solar, labordai ymchwil yn arloesi gyda thechnolegau storio ynni newydd, timau yn gosod ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar systemau ynni adnewyddadwy. Mae ein pobl ifanc wrth galon y bwrlwm, yn ysgogi arloesedd ac yn cynnal ein diwylliant a’n hiaith.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, gwyrdd a chefnogaeth i deithio llesol wedi ei gwneud hi’n haws ac yn fwy cynaliadwy i symud o gwmpas. Mae systemau gwresogi effeithlon ac inswleiddio yn ein cartrefi a’n busnesau yn sicrhau ein bod yn gysurus heb i ni niweidio’r blaned.

Cwestiynau cyffredin

Beth ydy ‘Ynys ynni’?

Menter a sefydlwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn ydy Rhaglen Ynys Môn, Ynys Ynni. Mae’n gyd-ymdrech sy’n cynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, oll yn cydweithio i sicrhau bod Ynys Môn yn flaenllaw mewn ymchwil, datblygu, cynhyrchu a gwasanaethu ynni carbon isel.

Mae Rhaglen Ynys Ynni yn bwriadu dod ag enillion economaidd allai fod yn enfawr i Ynys Môn. Mae’n ceisio denu a lleihau risg buddsoddi strategol mawr, dylanwadu ar ddatblygwyr posib, cefnogi datblygiad pobl, cymunedau, busnesau a seilwaith cystadleuol, a sicrhau’r manteision gwaddodol gorau posib gan ynni adnewyddadwy.

Mae Menter Môn yn gweithio’n agos gyda datblygiadau mawr ar yr ynys i sicrhau’r manteision gorau yn lleol. Mae hynny’n golygu y byddwn yn defnyddio unrhyw arian a dderbynnir er mwyn gwella’r gymuned, er enghraifft i wella ardaloedd cyhoeddus, cyflwyno pwyntiau gwefru trydan a chynnal gwahanol ddigwyddiadau cymunedol.

Gallwn ni gefnogi’r fenter hon drwy gofleidio ynni adnewyddadwy yn ein cartrefi a’n busnesau, a thrwy addysgu ein hunain a phobl eraill ynglŷn â phwysigrwydd ynni cynaliadwy. Gallwn gefnogi busnesau lleol sy’n ymwneud â’r sector ynni gwyrdd hefyd a dadlau o blaid polisïau sy’n hyrwyddo ynni adnewyddadwy.

O edrych ymlaen, gweledigaeth Ynys Ynni ydy creu cyfle unwaith-mewn-oes ar gyfer swyddi, twf economaidd, a ffyniant drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewidiol ar Ynys Môn. Mae dyheadau’r rhaglen yn allweddol er mwyn sicrhau adferiad economaidd gwyrdd, gyda datblygiadau posib yn gyson â pholisïau a blaenoriaethau presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Darllenwch fwy yma.

Pŵeru Ynys Môn
a’i phobl

Mae ynni ar Ynys Môn yn fwy na harneisio ynni adnewyddadwy; mae’n golygu creu dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i’n cymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn gosod safon i weddill y byd ei ddilyn.

Llinos Medi

Aelod Seneddol dros Ynys Môn