Green circular gradient

Cynorthwyo cymunedau i elwa o ynni adnewyddadwy

Ein gweledigaeth

Rydyn ni’n canolbwyntio’n hymdrechion ar ysgogi newid cadarnhaol ar ein hynys, drwy dechnolegau ynni adnewyddadwy a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i Ynys Môn

Pwerwyd gan Menter Môn

Ers ei sefydlu, mae Menter Môn wedi denu dros £70 miliwn o gyllid i’r ardal. Mae’r cyllid wedi’i fuddsoddi mewn prosiectau fel Llwybr Arfordir Ynys Môn, cefnogi cynnyrch bwyd newydd, adnewyddu hen adeiladau a diogelu rhywogaethau brodorol.

Dysgwch fwy am
ynni adnewyddadwy

Ynni ydy’r grym sy’n sail i bopeth a wnawn. O ferwi tegell i wresogi’n cartrefi, mae ynni’n rhan allweddol o’n bywydau beunyddiol.

Menter Mon bolt icon

Cwestiynau cyffredin

Sut galla i gael rhagor o wybodaeth am Ynni ar Ynys Môn a sut galla i ddod yn rhan o bethau?

Basen ni wrth ein boddau yn cael siarad â chi! Ein nod ydy mai ni fydd y man cyswllt canolog ar gyfer trafod beth sy’n digwydd ar yr ynys. Cysylltwch ag Erin ar erin@mentermon.com, a bydd hi’n ateb eich cwestiynau ac yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd ym Menter Môn

Rydyn ni’n gweithio gyda thrigolion Moelfre i ddysgu mwy ynglŷn â sut y gall buddsoddiadau amrywiol a thechnolegau newydd wella gwytnwch asedau cymunedol a busnesau, lleihau biliau, a helpu’r pentref i ffynnu yn y dyfodol. Darllenwch fwy am y prosiect yma.

Un o’n prif flaenoriaethau ydy darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bobl Ynys Môn er mwyn iddynt allu deall ynni adnewyddadwy, a dysgu beth mae’n ei olygu i’r ynys. Gweler ein tudalen technolegau ynni adnewyddadwy i gael dysgu mwy am y gwahanol dechnolegau sydd ar gael.

Mae Ynys Môn mewn sefyllfa arbennig o dda i allu ffynnu, gyda’i hadnoddau toreithiog yn rhoi potensial aruthrol i Ynys Môn arwain y ffordd gydag ynni adnewyddadwy, bod yn ganolbwynt technolegol, a phwerdy economaidd.

Erin Thomas

Swyddog Prosiect, Menter Môn