Green circular gradient

Ynni niwclear:

harneisio’r pŵer sydd wedi’i gloi yng nghalon atomau

Mae ynni niwclear yn taro’n galed! Mae’n hollti atomau, gan ryddhau ynni glân ar raddfa enfawr i bweru cartrefi a diwydiant.
Nuclear icon

Sut mae Ynni niwclear yn gweithio

Nid oes unrhyw nwyon tŷ gwydr yn cael eu cynhyrchu, sy’n golygu bod niwclear yn arf yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae pwerdai niwclear yn cynhyrchu ynni 24/7, boed law neu hindda, ac mae ychydig bach iawn o danwydd yn mynd ymhell iawn, gan leihau’r ddibyniaeth ar gadwyni cyflenwi tramor.

Mae atomau fel wraniwm yn cael eu hollti

Mae’r broses, a elwir yn “ymholltiad niwclear”, yn rhyddhau pŵer ar raddfa aruthrol ar ffurf gwres. Mae’r gwres hwnnw’n berwi dŵr, yn creu stêm, ac yn troelli tyrbinau er mwyn cynhyrchu trydan – yn union fel llawer o bwerdai traddodiadol.

Anghenion seilwaith a diogelwch

Mae yna gostau mawr ymlaen llaw a chyfnodau datblygu hir ynghlwm â sefydlu pwerdai niwclear newydd.

Sut mae ynni niwclear yn cael ei wneud yn ddiogel?

Mae diogelwch a rheoli gwastraff yn brif flaenoriaethau. Mae gwastraff niwclear yn ymbelydrol am filoedd o flynyddoedd, felly mae angen storfeydd diogel a drud.

Manteision Ynni niwclear

Ni chaiff unrhyw nwyon tŷ gwydr eu cynhyrchu

Mae pŵer niwclear yn un o’r ffynonellau ynni sydd â’r ôl-troed carbon lleiaf.

Mae ychydig bach iawn o danwydd yn mynd ymhell

Mae un belen o danwydd wraniwm, sydd tua’r un maint â chneuen, yn gallu cynhyrchu cymaint o ynni ag 800 cilogram o lo.

Nid yw pŵer yn ddibynnol ar y tywydd ac amser y dydd

Mae ynni niwclear yn dibynnu ar adnodd naturiol y mae digonedd ohono i’w gael mewn nifer o fannau o gwmpas y byd.

Pwerdy niwclear Wylfa ar Ynys Môn

Roedd pwerdy niwclear Wylfa yn ffynhonnell ynni bwysig i Gymru a’r Deyrnas Unedig am ddegawdau. Er nad ydy’r hen bwerdy yn weithredol bellach, mae yna gynlluniau ar gyfer pwerdy niwclear modern ar safle’r Wylfa. Gallai’r datblygiad newydd hwn ddarparu cyflenwad sylweddol o drydan carbon isel.

Ystyriwch ragor o
ddatrysiadau ynni

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon