Drwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt a haul Ynys Môn, gallwn greu tanwydd hydrogen a’i storio i’w ddefnyddio’n ddiweddarach. Gyda digonedd o ynni adnewyddadwy yma, mae Ynys Môn mewn sefyllfa berffaith i fod yn arweinydd o ran hydrogen.
Heddiw, rydym yn defnyddio hydrogen at amrywiaeth eang o ddibenion, gan gynnwys pweru cerbydau, storio ynni i’w ddefnyddio’n ddiweddarach, a hyd yn oed i gynhyrchu cynhyrchion pob-dydd fel gwrteithiau. Roedd yn arfer cael ei ddefnyddio mewn llongau aer oherwydd ei fod mor ysgafn.
Mae modd cynhyrchu hydrogen o adnoddau amrywiol, gan gynnwys nwy naturiol, pŵer niwclear, biomas, ynni’r haul a gwynt.
Gan gynnwys pweru cerbydau, storio ynni i’w ddefnyddio’n ddiweddarach, a hyd yn oed i gynhyrchu cynhyrchion pob-dydd fel gwrteithiau.
Mae modd storio ynni hydrogen, ei allforio, neu ei ddefnyddio’n ddiweddarach pan fydd angen.