Green circular gradient

Ynni gwynt:

harneisio pŵer natur

canlyniad gwahaniaethau mewn gwasgedd atmosfferig ydy’r gwynt – mae aer poeth yn codi, gan greu tyrfedd wrth i aer oer ruthro i ardaloedd o wasgedd isel ar yr arwyneb.
Wind icon

Sut mae Ynni gwynt yn gweithio

Rydyn ni wedi bod yn defnyddio ynni’r gwynt ers canrifoedd mewn melinau gwenith ac i bweru diwydiant. Heddiw, mae tyrbinau gwynt modern yn defnyddio ynni’r gwynt i gynhyrchu trydan glân, cynaliadwy, gan ffurfio rhan hollbwysig o ddatrysiadau ynni adnewyddadwy.

Tyrbinau gwynt

Mae’r tyrbinau hyn yn troelli gyda’r gwynt i gynhyrchu trydan. Mae symudiad y llafnau yn gyrru generadur, gan drosi ynni cinetig yn ynni trydanol. Nid yw’r broses hon yn cynhyrchu unrhyw fwg na llygredd, dim ond ynni glân ar gyfer eich cartref.

Ffermydd gwynt

Caiff grwpiau o dyrbinau gwynt eu galw’n ffermydd gwynt. Maent yn dod â chryn dipyn o ynni glân i ardaloedd fel Ynys Môn. Mae gan ffermydd gwynt ar y môr hyd yn oed fwy o botensial ar gyfer prosiectau ynni yn y dyfodol.

Anatomi tyrbin gwynt

Mae pob llafn yn gweithio yn yr un ffordd ag adain awyren – mae’r gwahaniaethau mewn gwasgedd aer yn peri i’r rotor gylchdroi.

Manteision Ynni gwynt

Nid yw’n cynhyrchu unrhyw nwyon tŷ gwydr na llygredd

Yn ei wneud yn ddewis arall cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar yn lle tanwydd ffosil.

Adnodd cost-effeithiol

Unwaith y byddant wedi’u gosod, mae gan dyrbinau gwynt gostau gweithredu isel ac maent yn gallu darparu trydan fforddiadwy.

Dull amgylcheddol gyfeillgar

Mae gwynt yn adnodd adnewyddadwy na fydd yn dod i ben, gan sicrhau datrysiad ynni tymor hir.

Ynys Môn, lleoliad delfrydol o ran gwynt

Yn ogystal â bod yn fanteisiol o ran lleihau allyriadau carbon, mae ynni gwynt yn dod â manteision o ran creu swyddi a meithrin datblygiadau technolegol blaengar. Mae Ynys Môn, gyda’i hamodau gwynt ffafriol, yn safle delfrydol ar gyfer prosiectau gwynt ar y tir ac ar y môr, gan addo dyfodol disglair i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn y rhanbarth.

Ystyriwch ragor o
ddatrysiadau ynni

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon