Mae craidd y Ddaear yn boeth iawn. Dychmygwch ddrilio ffynhonnau dwfn iawn a phwmpio dŵr i lawr i'r creigiau tanddaearol poeth. Dim ond ar ddyfnderoedd sylweddol iawn y gellir teimlo’r gwres hwn, ond mae pa mor ddwfn yn amrywio o gwmpas y byd.
Mae’r dŵr hwn yn troi’n stêm, yn rhuthro’n ôl i’r wyneb, ac yn troelli tyrbin i gynhyrchu trydan – yn union fel pwerdy traddodiadol, ond gan ddefnyddio gwres y Ddaear yn hytrach na llosgi tanwydd.
Mae’n dod o’r Ddaear ei hun, felly mae fel batri na fydd byth yn colli pŵer (ddim am filiynau o flynyddoedd beth bynnag!)
Nid yw ynni geothermol yn dibynnu ar amodau cyfnewidiol y gwynt neu’r haul, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Mae ynni geothermol yn fwy amgylcheddol gyfeillgar na defnyddio tanwydd ffosil ac mae ei ôl-troed carbon yn fach.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.
Safle gan Tropic