Green circular gradient

Ynni biomas:

yr ynni mewn deunydd organig

Troi gweddillion bwyd, cnydau sy’n mynd yn wastraff, a gwastraff melin goed yn ynni glân! Dyna’n union y mae pŵer biomas yn ei wneud – defnyddio deunyddiau organig fel naddion pren neu hyd yn oed wastraff bwyd, ac mae’n gallu lleihau gwastraff tirlenwi!
Biomass icon

Sut mae Ynni biomas yn gweithio

Mae ynni biomas yn rhyddhau’r ynni cemegol sydd wedi’i storio mewn deunydd organig – pethau fel pren, gweddillion bwyd, cnydau a dyfir yn bwrpasol, a hyd yn oed gwastraff anifeiliaid. Pan fydd yn cael ei losgi, mae biomas yn rhyddhau gwres sydd yn gallu cynhyrchu trydan neu wresogi adeiladau’n uniongyrchol.

Ynni adnewyddadwy

Cyn belled â bod coed a chnydau newydd yn cael eu plannu, ceir cyflenwad parhaus o danwydd. Mae gweithfeydd a boeleri biomas modern yn llawer mwy effeithlon a glân na llosgi boncyffion coed mewn lle tân, gydag allyriadau’n cael eu rheoli’n ofalus, gan gynnwys CO2 ac allyriadau gronynnol sy’n gallu achosi problemau iechyd.

Techneg pyrolosis

Drwy ddefnyddio’r dechneg hon, mae modd cynhyrchu bio-olew neu bio-olosg drwy gynhesu biomas i dymereddau uchel heb ocsigen. Gellir defnyddio’r rhain wedyn fel tanwydd confensiynol mewn cartrefi neu gerbydau.

Rôl biomas yn ein cyflenwad ynni

Mae biomas ar ei orau pan gaiff ei reoli mewn modd cyfrifol, gan sicrhau ein bod yn aildyfu’r hyn a ddefnyddiwn, ac mae angen ei gynllunio’n ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn wirioneddol gynaliadwy. Mae angen i ni aildyfu’r hyn a ddefnyddiwn ac osgoi niweidio’r amgylchedd.

Manteision Ynni biomas

Mae’n defnyddio gwastraff i greu ynni

Mae hyn yn golygu y gellir defnyddio’n gwastraff at ddiben cadarnhaol.

Mae biomas yn adnodd y mae digonedd ohono i’w gael

Gallwch chi ganfod biomas bron ymhobman ar y blaned, sy’n golygu na fydd problem o ran cyflenwad cyfyngedig fel sy’n digwydd gyda thanwydd ffosil.

Mae’n defnyddio seilwaith presennol

Mae modd defnyddio tanwydd biomas mewn seilwaith sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys ceir, stofiau, a generaduron.

Economi gylchol ar Ynys Môn

Mae ffermydd a fforestydd ar Ynys Môn yn darparu ffynonellau posib ar gyfer tanwydd biomas, fel naddion coed neu wastraff o gynaeafu cnydau. Yn ogystal, mae posibilrwydd y ghellir troi gwastraff y cartref a gwastraff bwyd yn ynni drwy systemau modern fel treulio anaerobig. Gallai prosiectau biomas ddod yn rhan o gymysgedd ynni Ynys Môn, gan gynnig ffordd o ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol a lleihau gwastraff tirlenwi a chynhyrchu gwres a phŵer adnewyddadwy.

Ystyriwch ragor o
ddatrysiadau ynni

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon