Green circular gradient

Storio ynni:

cronni’r ynni sydd dros ben

Pont allweddol tuag at ddyfodol gydag ynni adnewyddadwy dibynadwy. Dychmygwch mai batris anferth y gellir eu hailwefru ydyn nhw ar gyfer y grid trydan.
Energy storage icon

Sut mae Storio ynni yn gweithio

Pan fydd paneli solar a thyrbinau gwynt yn cynhyrchu mwy o ynni nag sydd ei angen, mae systemau storio yn camu i’r adwy ac yn cronni’r ynni yna sydd dros ben. Yn ddiweddarach, pan fydd yr heulwen yn pylu neu’r gwynt yn gostegu, bydd yr ynni hwn sydd wedi’i storio yn cael ei ryddhau eto, gan sicrhau llif cyson o bŵer.

Nifer o dechnolegau gwahanol

  • Mae systemau technoleg batri yn amrywio o unedau bach i’r cartref i osodiadau anferthol sy’n pweru trefi cyfan.
  • Mae storio ynni ag aer wedi’i gywasgu (CAES) yn defnyddio trydan ac yn cywasgu aer i mewn i geudyllau tanddaearol neu danciau.
  • Mae hydrogen yn gweithredu fel arch-danwydd, yn cael ei storio am gyfnodau hir ac yna’n cael ei ddefnyddio ni gynhyrchu trydan yn uniongyrchol neu i bweru diwydiant.
  • Mae storio thermol yn cipio gwres neu oerfel gormodol a’i gadw mewn tanciau wedi’u hinswleiddio.

Gorsaf Bŵer Arloesol Dinorwig

Mae storio hydrodrydan wedi’i bwmpio, sef y dechnoleg fwyaf aeddfed, yn gweithio fel batri dŵr anferth a chafodd ei arloesi gerllaw yn Eryri!

Galluogi’r defnydd mwyaf posib o ynni adnewyddadwy

Mae storio ynni yn sicrhau y gallwn ni sicrhau bod y cyflenwad ynni yn cyfateb i’r galw hyd yn oed pan fydd y tywydd yn newid, mae’n cadw’r grid trydan yn sefydlog, ac mae’n lleihau’r angen am ynni wedi’i fewnforio o fannau eraill

Manteision Storio ynni

Mae’n cydbwyso cyflenwad ynni â’r galw

Gallwn storio ynni sydd dros ben sy’n cael ei greu pan fydd mwy na’r galw’n cael ei gynhyrchu, a’i ryddhau pan fydd llai’n cael ei gynhyrchu.

Mae’n galluogi’r defnydd mwyaf posib o ynni adnewyddadwy

Gallwn dorri allyriadau drwy alluogi mwy o ddefnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau’r angen am danwydd ffosil.

Mae’n cadw’r grid ynni’n sefydlog

Mae’n darparu pŵer wrth gefn pan fydd toriadau, gan wella diogelwch ynni ar gyfer seilwaith a gwasanaethau allweddol.

Gwneud Ynys Môn yn fwy hunangynhaliol

Wrth i dechnoleg storio barhau i esblygu, mae’r ynys mewn sefyllfa unigryw i ddod yn arweinydd o safbwynt profi datrysiadau a’u rhoi ar waith, a gallai ysgogi arloesedd yn y sector hollbwysig hwn ar gyfer y dyfodol gydag ynni glân.

Ystyriwch ragor o
ddatrysiadau ynni

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon