Mae’r rhain wedi’u gwneud o ddeunyddiau fel silicon sy’n gallu amsugno heulwen a’i drosi’n uniongyrchol i drydan. Pan fydd heulwen yn taro’r celloedd hyn, mae’n gallu peri i electronau symud, gan greu cerrynt trydan. Gellir defnyddio’r trydan hwn wedyn i bweru ein cartrefi, busnesau a dinasoedd.
Mae’r systemau hyn yn cipio gwres yr haul i gynhyrchu trydan neu i gynhesu dŵr. Maent yn defnyddio drychau neu lensys i grynhoi heulwen ar dderbynnydd, sy’n amsugno’r gwres ac yn ei drosglwyddo i hylif. Mae’r hylif poeth hwn yn gallu cael ei ddefnyddio wedyn i gynhyrchu stêm i yrru tyrbin a chynhyrchu trydan, neu mae modd ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer gwresogi.
Cyn belled â bod yr haul yn bodoli, gallwn harneisio ei ynni!
Mae ynni solar yn harneisio pŵer yr haul i gynhyrchu trydan, gan ddarparu datrysiad ynni cynaliadwy a glân.
Mae perchenogion cartrefi a busnesau yn gallu lleihau eu biliau trydan yn sylweddol drwy gynhyrchu eu pŵer solar eu hunain.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.