Green circular gradient

Pŵer Llanw a Hydro:

symudiad naturiol dŵr

Mae symudiad dŵr yn cynnwys potensial aruthrol ar gyfer ynni glân! Mae’r technolegau hyn yn manteisio ar symudiad naturiol dŵr drwy ddisgyrchiant er mwyn sicrhau ynni glân.
Tidal and hydro icon

Sut mae Pŵer Llanw a Hydro yn gweithio

Mae pŵer llanw a hydro yn dibynnu ar ynni cinetig a photensial dŵr, ond mae ynni llanw yn harneisio’r ynni o lanw a thrai’r cefnforoedd tra mae pŵêr hydro fel arfer yn harneisio ynni o lif afonydd a gwahaniaethau mewn uchder.

Pŵer llanw

Dychmygwch dyrbinau gwynt dan y dŵr! Mae’r rhain yn cipio ynni llanw’r cefnforoedd, a dynnir gan y lleuad, gan gynhyrchu trydan glân.

Caiff pŵer ei gynhyrchu drwy:

  • Argaeau llanwol,
  • Generaduron ffrwd llanw,
  • Lagŵnau llanw.

Pŵer hydro

Mae argaeau yn harneisio pŵer dŵr sy’n llifo ar i lawr i droelli tyrbinau a chreu trydan.

Caiff pŵer ei gynhyrchu drwy:

  • Argaeau hydrodrydanol,
  • Systemau llif-yr-afon,
  • Pŵer hydro wedi’i bwmpio a’i storio.

Mae dŵr yn cynnwys potensial aruthrol ar gyfer ynni glân

Er nad yw pŵer hydro ar raddfa fawr yn bosib ar Ynys Môn oherwydd ei bod mor wastad a phrinder cymharol o ran afonydd pwerus, mae potensial cryf ar gyfer harneisio pŵer y llanw o amgylch arfordir yr ynys.

Manteision Pŵer Llanw a Hydro

Mae’r ddwy ffurf ar ynni yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy

Ni chaiff unrhyw nwyon niweidiol sy’n llygru eu cynhyrchu. Mae manteision ychwanegol yn gysylltiedig â nhw, fel rheoli llifogydd a rheoli dŵr.

Maent yn ddibynadwy ac mae modd eu rhagweld

Nid yw newidiadau yn y farchnad ynni ryngwladol yn effeithio arnynt, ac maent yn gallu addasu eu hallbwn yn gyflym er mwyn ateb y galw.

Adnodd effeithlon

Mae dŵr yn cario llawer mwy o ddwysedd nag aer, felly ychydig iawn o ynni sy’n cael ei wastraffu.

Mae arfordir Ynys Môn yn berffaith ar gyfer prosiectau ynni llanw

Mae mentrau fel Morlais yn arwain y ffordd, gan ddefnyddio tyrbinau tanddwr i gynhyrchu ynni glân ar gyfer miloedd o gartrefi ac arloesi gyda dyluniadau newydd. Mae pŵer y llanw’n cynnig ffynhonnell ynni gynaliadwy, sydd mor ragweladwy a dibynadwy a’r llanw ei hun!

Ystyriwch ragor o
ddatrysiadau ynni

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon

Pŵer Llanw a Hydro

Tidal and hydro icon

Pŵer solar

Solar icon

Ynni geothermol

Geothermal icon

Ynni hydrogen

Hydrogen icon

Ynni gwynt

Wind icon

Ynni biomas

Biomass icon

Ynni niwclear

Nuclear icon

Storio ynni

Energy storage icon