Harneisio pŵer natur gyda’r technolegau ynni adnewyddadwy diweddaraf. Cliciwch isod i ddarganfod mwy am y technolegau yma sydd ar flaen y gad.
Sefydlwyd rhaglen Ynys Môn, Ynys Ynni
Cychwynnwyd ar brosiect Morlais
Cafwyd cydnabyddiaeth i Ynys Ynni ledled y Deyrnas Unedig
Tesco’n cael ynni adnewyddadwy o fferm solar ar Ynys Môn
Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo fferm solar ar Ynys Môn, gyda chynlluniau i bweru 11,630 o gartrefi’r flwyddyn
4 prosiect sy’n rhan o Morlais yn derbyn dyfarniad ar y cyd i gyflenwi 22.4MW i’r grid
Disgwylir i’r Hyb Hydrogen fod yn weithredol o fewn y
5 mlynedd nesaf
Mae Morlais, neu “llais y môr” mewn geiriau eraill, yn fwy na phrosiect ynni’r llanw; mae’n brosiect arloesol fydd yn debygol o wthio terfynau technoleg ynni’r llanw, ac yn dystiolaeth o ddyfeisgarwch pobl. Gyda chapasiti cynhyrchu ynni hyd at 240MW, mae’n addo digon o drydan i bweru dros 180,000 o gartrefi. Ond mae’n golygu mwy na chynhyrchu ynni yn unig – mae’n brosiect sydd wedi’i gynllunio i allu profi a gwneud y gorau o dechnolegau ynni llanw amrywiol a ddatblygwyd gan gwmnïau o bedwar ban byd, pob un ohonynt yn anelu at ganfod y ffyrdd mwyaf effeithlon a chynaliadwy o ddwyn pŵer o’r llanw.
Yn 2014, dynododd Ystad y Goron safle Morlais yn barth arddangos ar gyfer ynni llanw – gyda’r bwriad o annog twf y sector ynni llanw. Sicrhaodd y cwmni nid-er-elw lleol Menter Môn y lês ar gyfer y safle a sefydlu’r prosiect mwyaf o’i fath sydd â chaniatâd yn y byd. Mae gwir botensial i’r prosiect hwn roi Ynys Môn a gogledd Cymru ar y map o safbwynt y sector twf pwysig hwn gydag arloesedd, swyddi, ac ynni adnewyddadwy yn graidd i’r cyfan.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.
Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu. Deall. Grymuso. Cysylltu.