Polisi preifatrwydd
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30-Gorffennaf-2024
Dyddiad Dod i Rym 30-Gorffennaf-2024
Mae’r Polisi preifatrwydd hwn yn disgrifio polisïau Ynys Ynni, Cyngor Sir Ynys Môn, Canolfan Fusnes Ynys Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, e-bost: erin@mentermon.com, ffôn: 01248752431 ynglŷn â chasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth a gesglir gennym pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan (ynniarynysmon.cymru ). (y “Gwasanaeth”). Drwy gael mynediad at y Gwasanaeth neu ei ddefnyddio, rydych yn cydsynio i gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn cydsynio i hynny, peidiwch â chael mynediad at y Gwasanaeth na’i ddefnyddio.
Gallwn addasu’r Polisi Preifatrwydd hwn unrhyw bryd heb roi unrhyw hysbysiad ymlaen llaw i chi a byddwn yn gosod y Polisi Preifatrwydd diwygiedig ar y Gwasanaeth. Bydd y Polisi diwygiedig yn dod i rym 180 diwrnod wedi i’r Polisi diwygiedig gael ei osod ar y Gwasanaeth a thrwy barau i gael mynediad at y Gwasanaeth neu ei ddefnyddio wedi’r cyfnod hwnnw yn golygu eich bod yn derbyn y Polisi Preifatrwydd diwygiedig. Rydym yn argymell felly y dylech fwrw golwg dros y dudalen hon yn achlysurol.
-
Gwybodaeth Rydym Yn Ei Chasglu:
Byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi:
- Enw
- E-bost
-
Sut Rydym Yn Defnyddio'ch Gwybodaeth:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch at y dibenion canlynol:
- Casglu adborth cwsmeriaid
- Gwybodaeth weinyddol
Os byddwn eisiau defnyddio’ch gwybodaeth at unrhyw ddiben arall, byddwn yn gofyn am eich cydsyniad a dim ond wedi i ni dderbyn eich cydsyniad y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth a phryd hynny, dim ond at y diben(ion) y rhoddir cydsyniad oni bai bod gofyn i ni wenud fel arall yn ôl y gyfraith.
-
Sut Rydym Yn Rhannu'ch Gwybodaeth:
Ni fyddwn yn trosglwyddo'ch gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti heb geisio’ch cydsyniad, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir isod:
- Gwasanaeth hysbysebion
- Asiantaethau marchnata
- Dadansoddiadau
Mae angen i drydydd partïon o’r fath ddefnyddio’r wybodaeth bersonol rydym yn ei throsglwyddo iddynt at y diben y cafodd ei throsglwyddo yn unig a pheidio â’i chadw am fwy o amser nag sydd ei angen ar gyfer cyflawni’r diben hwnnw.
Gallwn hefyd ddatgelu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer y canlynol: (1) er mwyn cydymffurfio â chyfraith, rheoliad, gorchymyn llys neu broses gyfreithiol arall; (2) er mwyn gorfodi eich cytundebau gyda ni, gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd hwn; neu (3) i ymateb i honiadau bod eich defnydd o’r Gwasanaeth yn tramgwyddo unrhyw hawliau trydydd-parti. Os caiff y Gwasanaeth neu ein cwmni ei uno â neu ei gaffael gan gwmni arall, bydd eich gwybodaeth yn un o’r asedau a drosglwyddir i’r perchennog newydd.
-
Cadw'ch Gwybodaeth:
Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol gyda ni am Gyfnod Amhenodol neu cyhyd â bod ei hangen arnom er mwyn cyflawni’r dibenion y’i casglwyd ar eu cyfer fel y manylir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Gall fod angen i ni gadw gwybodaeth benodol am gyfnodau hirach, er enghraifft ar gyfer cadw cofnodion / adrodd yn unol â’r gyfraith berthnasol neu am resymau cyfreithlon eraill megis gorfodi hawliau cyfreithiol, atal twyll, ac ati. Gellir cadw gwybodaeth ddienw weddilliol a gwybodaeth gyfansawdd, nad oes modd eich adnabod trwyddynt (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol) am gyfnod amhenodol.
-
Eich Hawliau:
Yn ddibynnol ar y gyfraith sy’n berthnasol, gall fod gennych hawl i gyrchu ac i gywiro neu ddileu eich data personol neu i dderbyn copi o’ch data personol, cyfyngu neu wrthwynebu prosesu eich data yn weithredol, gofyn i ni rannu (portio) eich gwybodaeth bersonol i endid arall, atal unrhyw gydsyniad a roddoch i ni i brosesu’ch data, hawl i gyflwyno cwyn gydag awdurdod statudol ac unrhyw hawliau eraill a all fod yn berthnasol yn ôl cyfreithiau perthnasol. Er mwyn gweithredu ar yr hawliau hyn, gallwch ysgrifennu atom yn info@ynniarynysmon.com. Byddwn yn ymateb i’ch cais yn unol â'r gyfraith berthnasol.
Nodwch os na fyddwch yn caniatáu i ni gasglu neu brosesu’r wybodaeth bersonol angenrheidiol neu os byddwch yn atal y cydsyniad i brosesu’r data hwnnw ar gyfer y dibenion gofynnol, mae’n bosib na fyddwch yn gallu cyrchu’r gwasanaethau y gofynwyd am eich gwybodaeth ar eu cyfer.
-
Cwcis ac ati:
I gael gwybod mwy am sut rydym yn defnyddio’r rhain a’ch dewisiadau mewn perthynas â’r technolegau olrhain hyn, cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis.
-
Diogelwch:
Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn defnyddio mesurau diogelwch rhesymol rhag colli neu gamddefnyddio’r wybodaeth amdanoch sydd dan ein rheolaeth neu ei haddasu heb awdurdod. Fodd bynnag, o ystyried y risgiau sydd ymhlyg yn hyn o beth, ni allwn warantu diogelwch llwyr ac o ganlyniad, ni allwn sicrhau neu warantu diogelwch unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo i ni ac rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hun.
-
Dolenni Trydydd Parti a Defnydd o’ch Gwybodaeth:
Gall ein Gwasanaeth gynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt yn cael eu cynnal gennym ni. Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymdrin â pholisi preifatrwydd nag arferion eraill unrhyw drydydd partïon, gan gynnwys unrhyw drydydd parti sydd yn cynnal unrhyw wefan neu wasanaeth y gellir ei gyrchu drwy ddolen ar y Gwasanaeth. Rydym yn eich cynghori’n gryf i fwrw golwg ar bolisi preifatrwydd pob safle y byddwch yn ymweld ag ef. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw safleoedd neu wasanaethau trydydd parti ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb drostynt.
-
Cwynion / Swyddog Diogelu Data:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â phrosesu eich gwybodaeth sydd ar gael gyda ni, gallwch e-bostio ein Swyddog Cwynion yn Ynys Ynni, Cyngor Sir Ynys Môn, Canolfan Fusnes Ynys Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, e-bost: erin@mentermon.com. Byddwn yn ymdrin â’ch pryderon yn unol â'r gyfraith berthnasol.
Polisi preifatrwydd wedi’i greu gyda CookieYes.