Prosiect Moelfre:
diweddariad
Rydym wedi bod yn gweithio gyda thrigolion Moelfre i ddysgu sut allwn ni leihau biliau, gwella gwytnwch busnesau a’r gymuned yn gyffredinol, a helpu’r pentref i ffynnu yn y dyfodol.
Helpu busnesau a thrigolion i wella sgôr eu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)
Cafodd yr ysgol, siop y pentref, y neuadd gymunedol, tai preswyl, a chaffi lleol oll eu harchwilio gan arbenigwyr cynaliadwyedd a nodwyd nifer o gamau newid ym mhob safle er mwyn gwella eu heffeithlonrwydd ynni a lleihau eu hallyriadau carbon.
Ysgol Gymuned Moelfre
Roedd yr ysgol eisoes wedi cael buddsoddiad mewn rhai gwelliannau effeithlonrwydd, gan gynnwys pwmp gwres a PV solar, ond serch hynny, nid oedd y staff wedi cael arweiniad digonol ynglŷn â defnyddio’r dechnoleg hon, ac nid oedd gwneuthuriad yr adeilad ei hun wedi cael ei ddiweddaru’n ddigonol i wneud y gorau o’r dechnoleg.
Argymhellwyd y dylid buddsoddi mewn hyfforddiant i’r staff gael deall yn iawn sut mae’r system gwresogi’n gweithio, ac ailgomisiynu’r system fel ei bod yn gallu bodloni anghenion yr ysgol yn iawn a chael ei reoli’n iawn.
Y Siop
Gwelwyd nad oedd goleuo effeithlon o ran ynni yn y siop – byddai newid hyn yn gallu arbed oddeutu 1400kWh y flwyddyn, sy’n cyfateb i tua £450. Byddai system gwresogi clyfar hefyd yn golygu y byddai modd rheoli’r gwresogi o bell, gan gael y gorau o berfformiad y system bresennol a gwella effeithlonrwydd.
Nodwyd y byddai paneli solar yn welliant sylweddol, gyda’r potensial i gynhyrchu 4,000 kWh yn ychwanegol y flwyddyn, gan leihau dibyniaeth ar y grid o 34%.
Neuadd Gymunedol Moelfre
Gwelwyd bod y neuadd gymunedol, sy’n ased gwerthfawr, yn allweddol o ran lleihau carbon a sefydlogi costau ynni. Gallai newid i fylbiau LED arbed £90 yn flynyddol gyda buddsoddiad bach. Byddai bwyler trydan yn gallu torri’r ddibyniaeth ar olew, a byddai system PV solar yn cynhyrchu 8,000kWh y flwyddyn yn lleihau dibyniaeth ar y grid.
Byddai gorsaf wefru cerbydau trydan hyrwyddo cludiant gwyrdd, denu ymwelwyr, a hybu busnesau lleol.
Ann’s Pantry
Byddai’r caffi lleol Ann’s Pantry yn elwa o uwchraddio i oleuadau LED, ond gwelwyd cyfle pwysig ar gyfer buddsoddi yn y broses olchi llestri hefyd. Caiff y llestri eu golchi â llaw ar hyn o bryd, sy’n golygu defnyddio llawer iawn o drydan a dŵr, ac yn galw am gryn dipyn o waith. Byddai peiriant golchi llestri trydan effeithlon yn arbed arian, ynni ac amser.
Roedd cyfle i osod paneli PV solar a fyddai’n cynhyrchu tua 3,500kWh ac yn esgor ar arbedion sylweddol.
Eiddo preswyl
Wedi siarad â’r trigolion a chael gwybod am eu systemau gwresogi, nodwyd angen i wneud defnydd mwy effeithlon o’r systemau presennol. Byddai gosod systemau rheoli gwresogi ac oeri effeithlon megis HIVE neu falfiau TRV clyfar yn galluogi’r trigolion i gael gwell dealltwriaeth a rheolaeth dros eu systemau gwresogi.
Bydd dogfen ganllaw ar effeithlonrwydd yn cael ei chreu hefyd er mwyn helpu i gynghori’r trigolion ynglŷn â gwella neu uwchraddio eu heiddo i helpu i leihau costau cynnal.
Pŵeru Ynys Môn
a’i phobl
Sut all technoleg wneud gwahaniaeth
- Mae paneli solar yn lleihau costau ynni yn uniongyrchol, gan wrthbwyso’r defnydd o drydan drwy gyflenwi ynni am ddim yn ystod yr oriau busnes prysuraf. Mewn lle fel Moelfre ble mae twristiaeth ar ei anterth yn y dyddiau hir o olau dydd yn yr haf, mae’r ynni a gynhyrchir gan set o baneli solar yn gweddu’n berffaith ag anghenion ynni busnes yn y diwydiant hwnnw, felly mae’n faes gwych ar gyfer gwneud y gorau o’r dechnoleg.
- Mae thermostat HIVE yn thermostat clyfar a gynlluniwyd er mwyn helpu i gadw tai yn gynhesach neu’n oerach mewn modd mwy effeithlon. Mae modd ei reoli o bell – sy’n golygu y gallwch chi reoli eich gwres o unrhyw le. Mae modd i chi amserlennu eich gwresogi yn rhwydd, gan reoli pa ystafelloedd gaiff eu gwresogi a phryd hyd yn oed, gan leihau’r defnydd o ynni. Mae’n gallu gwresogi eich cartref yn awtomatig pan fyddwch chi yno a lleihau’r gwresogi pan fyddwch chi oddi cartref, mae’n gallu helpu i ofalu am eich bwyler yn yr hirdymor, er enhghraifft drwy osod negeseuon atgoffa awtomatig ynglŷn â chynnal a chadw neu helpu i roi gwybod i chi am beryglon pibellau wedi rhewi yn y gaeaf, ac mae modd monitro’r defnydd o ynni fel y gallwch chi leihau eich defnydd o ynni.
- Mae gan y peiriant golchi llestri trydan botensial i wneud gwahaniaeth enfawr i unrhyw fusnes. Cyfran fechan o'r dŵr a ddefnyddir i olchi llestri â llaw y maent yn ei defnyddio, a llawer llai o ynni, felly byddai arbedion ar unwaith ar filiau yn unig. Mae’r tymereddau uchel a ddefnyddir wrth olchi llestri mewn peiriant yn golygu bod hylendid yn llawer gwell na dulliau eraill hefyd. Bydd unrhyw un sydd wedi gweithio mewn caffi mewn cyfnodau prysur yn gwybod y gall y llestri bentyrru’n uchel ofnadwy ar benwythnosau gŵyl banc – mae peiriant golchi llestri awtomatig n golygu rhyddhau rhagor o ddwylo i wneud gwaith hanfodol arall ac i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid, gan sicrhau gwell gwasanaeth.
Y dyfodol
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn canfod cyflenwyr lleol, rhesymol o ran pris ar gyfer y dechnoleg a’r gwaith sydd eu hangen ar gyfer y camau uwchraddio hyn, gyda’r targed o gyflawni’r rhan fwyaf ohonynt erbyn diwedd yr haf.
Pan fydd yr holl welliannau yn eu lle, byddwn yn parhau i ddadansoddi perfformiad ynni a’r newidiadau materol i fywydau’r bobl yng nghymuned Moelfre y bydd y newidiadau’n effeithio arnynt. Mae’r data’n dangos y telir am y rhan fwyaf o’r buddsoddiadau drwy gostau is ymhen tua 5 mlynedd, gyda buddsoddiadau mwy sylweddol fel PV solar yn talu ffordd ymhen tua 10-15 mlynedd.
Mae ynni ar Ynys Môn yn fwy na harneisio ynni adnewyddadwy; mae’n golygu creu dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i’n cymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn gosod safon i weddill y byd ei ddilyn.
Laura
Ann’s Pantry