Deall ynni
O ferwi tegell i wresogi’n cartrefi, mae ynni’n rhan allweddol o’n bywydau beunyddiol.
Ynni ydy’r grym sy’n sail i bopeth a wnawn
PŴER
KILOWATT (KW)
Mae cilowat (KW) yn uned o bŵer sy’n cyfateb i 1000 wat. Mae’n mesur cyfradd trosi ynni. Os yw dyfais wedi’i graddio ar 1KW, mae’n golygu y gall y ddyfais drosi 1 cilowat o ynni trydanol yn fath arall o egni (fel gwres neu fudiant) mewn un awr.
YNNI
+
KILOWATT AWR (KWH)
Un o’r unedau ynni allweddol ydy’r kilowatt-awr (kWh), sef faint o ynni a ddefnyddir pan fydd dyfais 1-kilowatt yn rhedeg am awr. Er enghraifft, os bydd tegell 1500-watt yn rhedeg am 15 munud, bydd yn defnyddio 0.375 kWh o ynni.
Defnydd ynni aelwydydd ar gyfartaledd

Ar gyfartaledd, mae pob aelwyd yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio tua 3,100 kWh o drydan a 12,000 kWh o nwy bob blwyddyn ar gyfer gwresogi.
Mae modd gwerthu ynni sy’n cael ei gynhyrchu gartref neu mewn lleoliadau masnachol yn ôl i’r grid, gan helpu i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw, ac o bosib, ennill incwm i’r sawl sy’n cynhyrchu.

Y newid i
ynni adnewyddadwy
Daw ynni adnewyddadwy o ffynonellau sy’n cael eu hadfer yn naturiol, megis golau’r haul, gwynt, a dŵr. Yn wahanol i danwyddau ffosil, y mae pen draw iddynt ac sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd, mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn lân ac yn ddi-ben-draw.
Er enghraifft – byddwn yn rhedeg allan o nwy, glo, neu olew yn y pen draw, gan mai cyflenwad cyfyngedig o’r rhain sydd ar y ddaear. Ar y llaw arall, mae golau’r haul yn cael ei adnewyddu bob dydd, ac mae’r llanw’n mynd a dod yn rheolaidd. Golyga hyn fod ffynonellau ynni fel hyn yn cael eu hadfer yn gyson.
Pam dylen ni boeni?
- Drwy harneisio ynni adnewyddadwy, gallwn ni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- Mae llosgi tanwydd yn creu llygredd aer sydd yn cael effaith aruthrol ar iechyd pobl, felly bydd lleihau hynny’n lleihau costau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac yn gwella lles pobl.
- Mae gan ynni adnewyddadwy y potensial i leihau costau a gwella sefydlogrwydd yn y dyfodol. Wrth i dechnoleg ddatblygu a sicrhau darbodion maint, mae cost ynni adnewyddadwy yn parhau i ddisgyn.
- Mae’r sector ynni adnewyddadwy hefyd yn ysgogydd allweddol ar gyfer swyddi newydd mewn gweithgynhyrchu, gosod, cynnal a chadw, ac ymchwil. Mae cynhyrchu ynni yn fwy lleol yn golygu hefyd bod swyddi’n cael eu dosbarthu’n fwy cyfartal ar draws cefn gwlad, gan ddod â swyddi y mae mawr eu hangen i ardaloedd gwledig.
Y Mynydd Trydan
Wedi’i agor yn 1984, mae’r Mynydd Trydan, neu Bwerdy Dinorwig, yn dystiolaeth o ddyfeisgarwch datrysiadau ynni. Mae’n chwarae rôl hollbwysig yn sicrhau cydbwysedd yn y grid drwy ddefnyddio trydan y tu allan i’r oriau brig i bwmpio dŵr i’w gronfa uchaf. Pan fydd y galw am bŵer yn cynyddu, caiff y dŵr sydd wedi’i gronni ei ryddhau i gynhyrchu trydan yn effeithiol, gan weithredu fel batri enfawr.
Mae’r cysyniad hwn yn adlewyrchu’r egwyddor sy’n sail i ddatrysiadau modern sydd wedi’u datganoli megis systemau batris storio. Fel ag y mae’r Mynydd Trydan yn storio ynni i’w ddefnyddio’n ddiweddarach, mae batris yn storio trydan a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy fel ynni’r haul neu’r gwynt. Mae modd defnyddio’r ynni hwn sydd wedi’i storio wedyn pan fydd ei angen, gan sicrhau cyflenwad pŵer cyson a chyfrannu at sefydlogrwydd y grid.
Batris storio
Ar Ynys Môn, mae batris storio ar raddfa lai yn cael eu defnyddio fwyfwy i gydbwyso’r galw, ynghyd â ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gyfer grid gwydn. Bydd prosiect arfaethedig yng Nghemaes yn storio 660 megawatt-awr (MWh) o ynni – digon ar gyfer 83,069 o gartrefi am ddwyawr y dydd.
Mae technolegau eraill, fel storio ag aer a hydrogen, yn ennill tir. Mae storio ag aer yn defnyddio aer wedi’i gywasgu mewn cronfeydd tanddaearol i gynhyrchu trydan pan fydd angen. Mae hydrogen, a gynhyrchir drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy dros ben, yn gallu cael ei storio i’w ddefnyddio mewn celloedd tanwydd neu i gynhyrchu trydan.
Yn aml, bydd ynni adnewyddadwy yn ysbeidiol, felly mae storio trydan ar gyfer cyfnodau brig yn allweddol. Mae rhoi’r datrysiadau hyn ar waith yn gallu helpu i sicrhau dyfodol gydag ynni cynaliadwy.
Cwestiynau am ynni adnewyddadwy
Sut caiff ynni ei fesur?
Un o’r unedau ynni allweddol ydy’r kilowatt-awr (kWh), sef faint o ynni a ddefnyddir pan fydd dyfais 1-kilowatt yn rhedeg am awr. Er enghraifft, os bydd tegell 1500-watt yn rhedeg am 15 munud, bydd yn defnyddio 0.375 kWh o ynni.
Uned o bŵer ydy kilowatt (KW) ac mae’n cyfateb i 1000 watt. Mae’n mesur cyfradd trosi ynni. Os ydy dyfais wedi’i graddio’n 1KW, mae’n golygu bod y ddyfais yn gallu trosi 1 kilowatt o ynni trydanol i ynni ar ffurf arall (megis gwres neu symudiad) mewn un awr.
O safbwynt defnyddio ynni yn y cartref, ar gyfartaledd, mae pob aelwyd yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio tua 3,100 kWh o drydan a 12,000 kWh o nwy bob blwyddyn ar gyfer gwresogi. Mae modd gwerthu ynni sy’n cael ei gynhyrchu gartref neu mewn lleoliadau masnachol yn ôl i’r grid, gan helpu i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw, ac o bosib, ennill incwm i’r sawl sy’n cynhyrchu.
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng ynni adnewyddadwy a thanwydd ffosil?
Mae tanwydd ffosil, sy’n cynnwys glo, olew a nwy naturiol, yn ffurfio cyfran sylweddol o gymysgedd ynni’r byd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dydy’r rhain ddim yn ffynonellau di-ben-draw ac mae eu hechdynnu o’r ddaear a’u defnyddio yn creu allyriadau carbon sylweddol, gan gyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Ar y llaw arall, mae ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt, solar a hydro yn ddi-ben-draw, ac ychydig iawn o allyriadau maen nhw’n eu cynhyrchu, neu ddim o gwbl. Maen nhw’n ddewis arall cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar yn lle tanwydd ffosil.
Mae tanwydd ffosil yn gosod straen mawr ar yr amgylchedd fel arfer, gan fod angen echdynnu mwynau o’r ddaear ar raddfa fawr a defnyddio llawer iawn o ddŵr. Mae ynni adnewyddadwy yn tueddu i fod ag ôl-troed llawer llai ar y tir a does dim angen dinistrio cynefinoedd fel y gwelir gyda gwaith cloddio a drilio am danwydd ffosil.
Mae deall ynni a rôl ffynonellau adnewyddadwy yn hollbwysig yn ein byd heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ddiwallu ein holl anghenion ynni drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Dysgwch fwy am dechnolegau ynni adnewyddadwy.
Ydy ynni adnewyddadwy yn ddrutach?
Er bod cost rhag blaen rhai system ynni adnewyddadwy yn sylweddol, dros amser, daw ffynonellau adnewyddadwy yn rhatach o lawer oherwydd nad oes costau tanwydd dros amser, a bod llai o ofynion cynnal a chadw. Wrth i brosesau gweithgynhyrchu ddatblygu ac i raddfa’r gwaith cynhyrchu gynyddu, mae costau cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi lleihau’n sylweddol. Yn ôl y sefydliad ymchwil ynni adnewyddadwy IRENA, mae pris ynni solar yn fyd-eang wedi disgyn 89% rhwng 2010 a 2022, ac ynni gwynt ar y môr ac ar y tir wedi disgyn 69% a 59% yn eu tro.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn datgan nawr mai ynni adnewyddadwy ydy’r ffurf rataf ar ynni yn fyd-eang, gyda buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy yn arbed $55,000,000 yn fyd-eang mewn costau ynni. Adroddwyd yn 2024 bod buddsoddiadau mewn ynni solar yn Sbaen wedi lleihau eu costau ynni i €2/MWh, sef tua 1/30 o’r hyn rydym yn ei dalu ar hyn o bryd yng Nghymru (Mawrth 2024).
Yn y Deyrnas Unedig, mae’r ffordd y mae’r farchnad ynni gyfanwerthol yn gweithio yn seiliedig ar brisio ymylol – sy’n golygu bod cost yr holl drydan yn cael ei bennu ar sail cost y dull drutaf o gynhyrchu sydd ei angen i gwrdd â’r galw ar unrhyw adeg benodol. Caiff hyn ei osod fel arfer gan nwy neu olew, hyd yn oed ar ddyddiau pan fydd digonedd o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu, felly mae’r defnyddiwr yn talu mwy.