Ynys Môn llewyrchus a chynaliadwy
Dychmygwch ddyfodol lle mae Ynys Môn yn fwy nag ynys, lle mae’n ganolfan ragoriaeth fyd-enwog ar gyfer ynni, yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddiadau mawr mewn ynni, ac yn arweinydd mewn ymchwil a datblygu ar gyfer ynni carbon isel. Dyma ein gweledigaeth.
Pŵeru Ynys Môn
a’i phobl
Dysgwch fwy am
ynni adnewyddadwy
Ynni ydy’r grym sy’n sail i bopeth a wnawn. O ferwi tegell i wresogi’n cartrefi, mae ynni’n rhan allweddol o’n bywydau beunyddiol.
Pwerwyd gan
Menter Môn
Ers dros 25 mlynedd, mae Menter Môn wedi bod yn cydweithio gyda busnesau, cymunedau, y sector cyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol.
Yma ar Ynys Môn, mae adeiladu dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i’n cymuned unigryw yn greiddiol i’n gwaith. Gyda digonedd o ynni o’r haul, y llanw a ffynonellau adnewyddadwy eraill, gallwn osod y safon i gymunedau eraill ei dilyn
Dafydd Gruffydd
Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn